Mae Dafydd Hughes & Co yn cynnig ystod lawn o gyfrifyddiaeth, gwasanaeth cefnogaeth treth a busnes i helpu unigolion a busnesau i gyflawni eu nodau a llwyddo. Rydym yn ymfalchïo ar lefel uchel o wasanaeth cyfeillgar a broffesiynol.
Mae gennym brofiad o helpu busnesau mewn sawl sector, o adeiladu, ffermio, parciau carafannau a manwerthu i landlordiaid â phortffolios eiddo sylweddol neu dai gwyliau.
Rydym yn cynnig ffioedd sefydlog a dewisiadau talu hyblyg, ac felly yn annog perthynas rhyngweithiol gyda ein cleientiaid i sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i gynnig cyngor rhagweithiol, gan sicrhau na fydd ein cleientiaid yn talu am gyngor yn ystod y flwyddyn. Rydym yn hapus i ddelio drwy e-bost, dros y ffôn a gyda cyfryngau cymdeithasol. Wrth gwrs, rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth traddodiadol wyneb yn wyneb, yn cynnig apwyntiadau hyblyg sy'n addas ar gyfer eich amserlen brysur, un ai yn ein swyddfa yn Llangefni, neu yn eich cartref / busnes yn Ynys Môn, Gwynedd a Conwy.
Amdanom
Cyfarwyddwr
Yn 2008 graddiodd Dafydd o Brifysgol Bangor gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfrifeg a Chyllid. Ymunodd gyda Hart Parry Cyf ym Mangor fel cyfrfydd dan hyfforddiant wedi hynny. Ar ôl cymhwyso yn 2011 daeth yn gyfarwyddwr yn Hart Parry Cyf yn 2013. Roedd yn edrych ar ôl amrywiaeth o dreth personol, unig fasnachwyr, cleientiaid cwmni cyfyngedig a partneriaid, o fusnesau newydd sefydlu i fusnesau sefydledig llwyddiannus. Roedd Dafydd ar y rhestr fer fel Ymarferydd Newydd y flwyddyn yng ngwobrau Cyfrifeg Prydain yn 2014.
Sefydlodd Dafydd gwmni ei hun, Dafydd Hughes & co, yn seiliedig yn Llangefni, er mwyn cynnig yr un lefel uchel o wasanaeth aond mewn ardal wahanol - yn Ynys Mon. Sefydlwyd y cwmni er mwyn cynnig cyfrifyddiaeth hyblyg ar gyfer unigolion prysur a pherchnogion busnes ynghyd â’r newidiadau fydd yn dod i rym gan y Llywodraeth i wneud treth yn ddigidol. Er nad yw cyfrifydd 9-5 yn gyfleus ar gyfer llawer o bobl erbyn hyn, rydym yn cynnig oriau hyblyg, ac yn annog rhyngweithio a chyfathrebu gan ddefnyddio technoleg sydd ar gael heddiw, megis Facebook , WhatsApp, e-bost, neges destun, skype, neu yn syml dros y ffôn. Rydym yn hapus i addasu ar gyfer ein cleientiaid.
Mae Dafydd yn brofiadol mewn amrywiaeth o drethi gwahanol gan gynnwys treth ar enillion cyfalaf, treth etifeddiant, treth gorfforaethol a hunan-asesiad.
Dafydd Hughes BA (Hons) FCCA
Sut y gallwn eich helpu?
Mae Dafydd Hughes & co yn cynnig gwasanaeth cyfrifydd wedi'u teilwra ar gyfer unigolion a busnesau, gyda dull gweithredu rhagweithiol a phrofiad mewn amrywiaeth o sectorau. Os ydych yn unigolyn sydd angen cymorth gyda eich ffurflen dreth hunanasesu, yn fusnes sydd eisiau cymorth gyda’ch materion cyfrifon a treth , neu yn fenter newydd sydd yn edrych am gyngor a chymorth, mae gennym yr arbenigedd i’ch helpu chi. Rydym wedi ein lleoli yn Llangefni, Ynys Môn, ond gweithio gyda nifer o gleientiaid o amgylch Bangor, Gwynedd, Conwy a ledled y DU drwy e-bost. Cysylltwch â ni ar gyfer ymgynghoriad am ddim ar gyfer unrhyw gyfrifo, cynllunio treth neu gyngor busnes cyffredinol i weld sut y gallwn eich helpu.